Amos 7

Gweledigaethau am gosbi Israel

Haid o Locustiaid

1Dyma fy Meistr, yr Arglwydd, yn dangos hyn i mi: Roedd yn creu haid o locustiaid pan oedd y cnwd diweddar yn dechrau tyfu (y cnwd sy'n cael ei blannu ar ôl i'r brenin fedi'r cnwd cyntaf). 2Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, Arglwydd, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”

3A dyma'r Arglwydd yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd,” meddai'r Arglwydd.

Tân

4Dyma fy Meistr, yr Arglwydd, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr Arglwydd, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd. 5Dyma fi'n dweud, “O Feistr, Arglwydd, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”

6Dyma'r Arglwydd yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r Arglwydd.

Llinyn Plwm

7Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law. 8Gofynnodd yr Arglwydd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. 9Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam
7:9 Jeroboam Jeroboam II, brenin Israel o 783 i 743 CC
hefo cleddyf.”

Amaseia, prif-offeiriad Bethel, yn ymosod ar Amos

10Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud. 11Achos mae e'n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u gwlad yn gaethion.’”

12Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno! 13Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae'r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.”

14A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud. 15Ond dyma'r Arglwydd yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ 16Felly, gwrando, dyma neges yr Arglwydd. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac. 17Ond dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd,
a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel.
Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill,
a byddi di'n marw mewn gwlad estron.
Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’”
Copyright information for CYM